|
|
|||||
Welsh Baccalaureate There are now 168 centres offering the Welsh Baccalaureate Qualification to some 30,000 learners across Wales. This includes 61 new centres and an extra 11,000 learners from September, 10 centres offering Principal Learning and Project Qualifications for the first time across 3 area networks and 55 centres that are rolling out the Foundation level model across 14-19 learning and at Intermediate level in Key Stage 4. More centres are set to join the programme next September. Invitations to apply for the 2nd phase of roll-out at Foundation Level and at Intermediate level in Key Stage 4 were issued on 3 September. Applications have also been invited from 14-19 Networks that wish to offer Principal Learning and in a further 6 lines of learning, making 10 in all. Expressions of Interest have been received from 15 out of the 22 Networks. The closing date for all applications is 6 November. Outcomes should be announced in December. Further boost A Principal Learning Forum has been set up with Careers Wales, Skills Sector Councils and Awarding Bodies to enable better communication, awareness and share best practice in supporting the role out and delivery of the qualifications. This summer’s results provided a further boost for the Welsh Baccalaureate Qualification, which saw big increases in entries and in the numbers and proportion of learners that achieved the qualification at all 3 levels. For all other information about the qualification, including the roll-out application and this summer’s results, visit www.wbq.org.uk and www.wales.gov.uk/learners
|
|
|||||
Database of Approved Qualifications in Wales (DAQW) We are delighted to announce the launch of DAQW, a new database which draws together information previously held in a variety of locations to give a single source of information about all qualifications approved for use in Wales. DAQW replaces the Section 96 List on the Welsh Assembly Government website and will provide information about:
DAQW is a bilingual, web based service which requires no login or password to access. DAQW is fully searchable by single keyword or more advanced search options. Results can be saved, printed or downloaded in CSV formats. Support materials including quick reference ‘How To’ guides and a glossary of terms are available on the DAQW site which can be found at www.daqw.org.uk.
|
|
|||||
|
Local Curriculum at Key Stage 4 The Learning and Skills (Wales) Measure 2009 outlines the regulation for Local Authorities to provide one or more local curricula for pupils at Key Stage 4 (pre-16) which:
These choices can be offered in partnership with other schools and colleges. The Learning Pathways 14-19 team in the Welsh Assembly Government and Careers Wales On-line have been working in partnership with schools to produce an on-line means of recording Key Stage 4 (pre-16) options and also a means of enabling pupils to make their choices on-line. How can the On-line System assist schools?
Pupil Option Choice
If you wish to receive further information please contact Careers Wales On-line or the Learning Pathways 14-19 team (mail to:14-19@wales.gsi.gov.uk) at the Welsh Assembly Government.
|
|
|||||
Learning Pathways 14-19 COW Road Safety film A short road safety film called COW has been produced which highlights the danger of texting whilst driving. The film was supported by Blaenau Gwent’s Local Area Network, through Learning Pathways 14-19 funding, and is a co-production between Tredegar Comprehensive School and Gwent Police. It is aimed at young people and will be used in PSE Education within secondary schools in Blaenau Gwent, from September 2009. The film has received global attention since a clip from the film was posted on YouTube a few weeks ago; CNN, Fox News, HTV and the BBC have all run features on the film.
Tragedy of joyriding The idea to produce COW came from Jeff O’Reilly, former Deputy Head of Tredegar Comprehensive School. Fourteen years previously he commissioned a similar drama in conjunction with Gwent Police, showing the tragic effects of joyriding and felt that an update was needed to focus on the dangers of young people texting whilst driving. Two of the three girls that star in the film are Blaenau Gwent pupils. The production took six months to complete and was filmed on location in Tredegar, Merthyr Tydfil and Abergavenny.
|
|
|||||
A Regional Strategic Approach to the Development of e-Learning Module Resources Schools and colleges in all Networks have been developing blended learning resources for some time now and a wealth of resources has been developed, many of which are available at NgFL. However this year, the six North Wales networks have dedicated funding from their ANDP to coordinate and quality assure further developments to avoid duplication and to get better value for money. Mansell Davies from Cynnal has been seconded as the Coordinator and each of the Networks has identified course titles to be developed. The emphasis is on high quality, bilingual multi-media units or complete courses, particularly in vocational subjects. Shared by networks For example, Denbighshire and Cynnal are working on 3 MFL units for Wales, Europe and the World (in consultation with CILT Cymru), CACHE, Construction, Engineering and e-Media as well as completing A2 units in Sociology and Psychology to add to the completed Moodle courses at AS in these subjects along with AS Religious Studies. Flintshire, Wrexham, Conwy, Gwynedd and Ynys Mon have similar, complementary lists. All of these courses will be shared by the Networks and will become available for use by all Networks from next year. A fuller article, with links to the resources, will be published in a future edition of the e-Zine.
|
|
|||||
Your feedback Any Suggestions? Your knowledge and experience is invaluable and we welcome your input. Please email us at 14-19@wales.gsi.gov.uk Interested Colleague? Send us their email address and we’ll get a copy sent to them. Can't see the images? Some email servers and email software don't support imagery, so if you are having difficulties viewing this e-Zine, it can be viewed online at http://www.learningpathways14-19update.org.uk This e-mail was sent on behalf of the Department for Children, Education, Lifelong Learning and Skills, Welsh Assembly Government. If you no longer wish to receive these e-mailings, please send us an unsubscribe e-mail |
|
|||||
|
||||||
|
||||||
Bagloriaeth Cymru – y gwaith cyflwyno yn mynd rhagddo Bellach mae 168 o ganolfannau yn cynnig Cymhwyster Bagloriaeth Cymru i ryw 30,000 o ddysgwyr ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys 61 o ganolfannau newydd a 11,000 o ddysgwyr ychwanegol o fis Medi ymlaen, 10 canolfan yn cynnig Cymwysterau Prif Ddysgu a Chymwysterau Prosiect am y tro cyntaf mewn tri rhwydwaith ardal a 55 o ganolfannau sy'n cyflwyno'r model ar lefel Sylfaen ar gyfer dysgu 14-19 ac ar lefel Ganolradd yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae disgwyl i ragor o ganolfannau ymuno â'r rhaglen fis Medi nesaf. Cyhoeddwyd gwahoddiadau i wneud cais am ail gam cyflwyno'r Lefel Sylfaenol a’r Lefel Ganolradd yng Nghyfnod Allweddol 4 ar 3 Medi. Mae ceisiadau hefyd wedi'u gwahodd gan Rwydweithiau 14-19 sydd am gynnig cymwysterau Prif Ddysgu ac mewn 6 maes arall o ddysgu, sef cyfanswm o 10 bellach. Mae datganiadau o ddiddordeb wedi'u derbyn gan 15 o'r 22 Rhwydwaith. Y dyddiad cau ar gyfer yr holl geisiadau yw 6 Tachwedd. Dylai'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr. Hwb pellach Mae Fforwm Prif Ddysgu wedi'i sefydlu sy’n cynnwys Gyrfa Cymru, Cynghorau Sgiliau Sector a'r Cyrff Dyfarnu er mwyn gwella cyfathrebu, creu ymwybyddiaeth a rhannu arferion da wrth gynorthwyo â'r gwaith cyflwyno ac wrth ddarparu'r cymwysterau hyn. Roedd canlyniadau'r haf hwn yn hwb pellach i Gymhwyster Bagloriaeth Cymru pryd y gwelwyd cynnydd mawr yn nifer yr ymgeiswyr ac yn niferoedd a chyfran y dysgwyr a lwyddodd i ennill y cymhwyster ar y tair lefel. I gael rhagor o wybodaeth am y cymhwyster, gan gynnwys y gwahoddiad i'w chyflwyno a chanlyniadau'r haf eleni, ewch i www.wbq.org.uk a www.wales.gov.uk/learners.
|
|
|||||
Cronfa Ddata o Gymwysterau Cymeradwy yng Nghymru Mae'n dda gennym gyhoeddi lansio'r gronfa ddata newydd sy'n dwyn ynghyd wybodaeth a gâi ei chadw cyn hyn mewn nifer o wahanol leoliadau. Bydd y gronfa ddata newydd yn cynnig un ffynhonnell o wybodaeth am yr holl gymwysterau y cymeradwyir eu defnyddio yng Nghymru. Mae'r gronfa ddata yn disodli Rhestr Adran 96 ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru a cheir ynddi wybodaeth am y canlynol:
Mae'r gronfa ddata yn wasanaeth dwyieithog sy'n seiliedig ar y we ac nid oes angen mewngofnodi na chyfrinair er mwyn ei defnyddio. Gellir defnyddio un gair allweddol er mwyn chwilio neu mae opsiynau chwilio mwy manwl ar gael hefyd. Gall y canlyniadau gael eu cadw, eu hargraffu neu eu lawrlwytho ar fformat CSV. Mae deunyddiau cymorth megis cyfeiriaduron a rhestr termau ar gael ar safle'r Gronfa Ddata o Gymwysterau Cymeradwy yng Nghymru sef www.daqw.org.uk
|
|
|||||
|
Y Cwricwlwm Lleol yng Nghyfnod Allweddol 4 Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu un neu ragor o gwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4 (cyn 16 oed) sydd:
Gellir cynnig y dewisiadau hyn mewn partneriaeth ag ysgolion a cholegau eraill. Mae tîm Llwybrau Dysgu 14-19 Llywodraeth Cynulliad Cymru a Gyrfa Cymru Ar-lein wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion ar greu dull o gofnodi opsiynau yng Nghyfnod Allweddol 4 (cyn 16 oed) ar-lein a hefyd ar system a fydd yn galluogi disgyblion i wneud eu dewisiadau ar-lein. Sut y gall y System Ar-lein fod o help i ysgolion?
Dewis Opsiynau gan Ddisgyblion
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Gyrfa Cymru Ar-lein neu'r tîm Llwybrau Dysgu (mailto:14-19@wales.gsi.gov.uk) yn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
|
|
|||||
Llwybrau Dysgu 14-19 – ffilm Diogelwch ar y Ffyrdd, COW Mae ffilm fer ar ddiogelwch ar y ffyrdd o'r enw COW wedi'i chynhyrchu i ddangos peryglon anfon neges destun wrth yrru. Cafodd y ffilm gefnogaeth gan Rwydwaith Ardal Leol Blaenau Gwent a chafodd ei hariannu drwy'r rhaglen Llwybrau Dysgu 14-19. Mae'r ffilm wedi'i chynhyrchu ar y cyd gan Ysgol Gyfun Tredegar a Heddlu Gwent ac mae wedi'i hanelu at bobl ifanc i’w defnyddio mewn gwersi ABCh mewn ysgolion uwchradd ym Mlaenau Gwent o fis Medi 2009 ymlaen. Mae'r ffilm wedi derbyn sylw byd-eang ers i ran ohoni gael ei dangos ar YouTube ychydig wythnosau yn ôl. Mae CNN, Fox News, HTV a'r BBC oll wedi rhoi sylw i'r ffilm.
Trasiedi gwefryrru Syniad Jeff O'Reilly, cyn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Tredegar, oedd cynhyrchu COW. Bedair blynedd ar ddeg ynghynt roedd wedi comisiynu drama debyg ar y cyd â Heddlu Gwent yn dangos effeithiau trasig gwefryrru a theimlai fod angen canolbwyntio bellach ar beryglon pobl ifanc yn anfon neges destun wrth yrru. Mae dwy ferch o'r tair sy'n ymddangos yn y ffilm yn ddisgyblion ym Mlaenau Gwent. Chwe mis y bu'r criw cynhyrchu wrthi a chafodd y gwaith ffilmio ei wneud ar leoliad yn Nhredegar, Merthyr Tudful a'r Fenni.
|
|
|||||
Datblygu Adnoddau Moodle E-ddysgu yn Strategol ac yn Rhanbarthol Mae ysgolion a cholegau ym mhob un o'r Rhwydweithiau wedi bod yn datblygu adnoddau dysgu cyfunol ers tro bellach ac mae cyfoeth o adnoddau ar gael bellach, llawer ohonynt drwy GCaD. Eleni, fodd bynnag, mae chwe rhwydwaith yng Ngogledd Cymru wedi neilltuo arian o'u Cynllun Datblygu Rhwydwaith Blynyddol i gydgysylltu datblygiadau pellach a sicrhau eu hansawdd er mwyn osgoi dyblygu a sicrhau gwell gwerth am arian. Mae Mansel Davies o'r cwmni Cynnal wedi'i secondio fel Cydgysylltydd ac mae pob un o'r Rhwydweithiau wedi nodi teitlau cyrsiau i'w datblygu. Mae'r pwyslais ar unedau neu gyrsiau cyflawn amlgyfrwng dwyieithog o safon, yn arbennig mewn pynciau galwedigaethol. Rhwydweithiau yn rhannu gwaith Mae Sir Ddinbych a Chynnal er enghraifft, yn gweithio ar dair uned ar Ieithoedd Tramor Modern ar gyfer Cymru, Ewrop a'r Byd (drwy ymgynghori â CILT Cymru), CACHE, Adeiladwaith, Peirianneg ac e-Gyfryngau. Yn ogystal â hynny cwblhawyd dwy uned A2 mewn Cymdeithaseg a Seicoleg er mwyn eu hychwanegu at y cyrsiau Moodle sydd wedi'u cwblhau eisoes ar gyfer safon Uwch Gyfrannol (UG) yn y pynciau hyn ynghyd ag Astudiaethau Crefyddol UG. Mae rhestri tebyg cyfategol gan Sir y Fflint, Wrecsam, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn hefyd. Bydd pob un o’r cyrsiau hyn yn cael ei rannu gan y Rhwydweithiau a byddant ar gael i'w defnyddio gan yr holl Rwydweithiau o'r flwyddyn nesaf ymlaen. Bydd erthygl fwy cyflawn, yn cynnwys dolenni at yr adnoddau, yn cael ei chyhoeddi mewn rhifyn arall o'r e-grawn yn y dyfodol.
|
|
|||||
Eich adborth Unrhyw awgrymiadau? Mae eich gwybodaeth a'ch profiad yn amhrisiadwy a chroesawn eich cyfraniadau. Anfonwch neges e-bost atom yn 14-19@wales.gsi.gov.uk Cydweithiwr â diddordeb? Anfonwch ei gyfeiriad e-bost atom a byddwn yn anfon copi ato. Methu gweld y delweddau? Nid yw rhai gweinyddwyr e-bost a meddalwedd e-bost yn gallu dangos delweddau, felly os ydych yn cael anawsterau gweld yr e-gylchgrawn hwn, gellir ei weld ar-lein yn http://www.learningpathways14-19update.org.uk Anfonwyd y neges e-bost hon ar ran yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru. Os nad ydych am gael y negeseuon e-bost hyn mwyach, anfonwch negesn e-bost dileu tanysgrifiad atom
|
|
|||||